Prosiect Gorwelion Sero Net: Stad Ddiwydiannol Colomendy

Croeso i’r Prosiect Gorwelion Sero Net

Mae One Earth Education yn falch o lansio’r prosiect Gorwelion Sero Net, sef menter a ariennir yn llawn gyda’r nod o drawsnewid Ystâd Ddiwydiannol Colomendy i fod yn enghraifft wych o gynaliadwyedd a niwtraliaeth carbon.

Mae’r prosiect hwn, a gynhelir mewn cydweithrediad â’r fenter Cadwyn Clwyd ac a gefnogir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, wedi’i gynllunio i helpu’ch busnes i gyrraedd cynaliadwyedd mewn modd di-dor a chefnogol.

Ein Cenhedaeth​

Mae’r prosiect Gorwelion Sero Net wedi ymrwymo i helpu hyd at 40 o fusnesau ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy tuag at gynaliadwyedd heb unrhyw gost iddynt. Ein cenhadaeth yw atgynhyrchu’r model hwn yn eang, gan ddangos sut y gall cwmnïau gychwyn ar eu taith sero net yn effeithiol.

Rydym yn cynnig dull wedi’i deilwra, gan gydnabod bod gan bob busnes anghenion unigryw. Gan dynnu ar ein profiad cyfoethog o brosiectau tebyg, ein nod yw darparu’r cymorth penodol sydd ei angen ar bob cwmni i gyflawni cynaliadwyedd. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â bodloni safonau amgylcheddol cyfredol a gosod meincnod newydd ar gyfer arferion busnes cynaliadwy ar draws rhanbarthau.

Rydym yn awyddus i weithio gyda busnesau ar unrhyw gam o’u taith gynaliadwyedd. Drwy ymuno â ni, rydych chi’n cymryd cam tuag at leihau eich effaith amgylcheddol a chyfrannu at fudiad ehangach ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Yr Hyn Yr Ydym yn ei
Gynnig

Mae ein gwasanaethau a ariennir yn llawn yn cynnwys: 

  • Asesiadau Ôl Troed Carbon: Byddwn yn cynnal asesiadau cynhwysfawr ar gyfer pob busnes sy’n cymryd rhan, gan sicrhau dealltwriaeth glir o’u heffaith amgylcheddol a nodi meysydd allweddol y gall busnesau eu gwella.
  • Ymgynghori Un-i-Un: Byddwn yn darparu gwasanaethau ymgynghori personol, gan gynnig cyngor arbenigol ar osodiadau ynni adnewyddadwy ac arferion cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys cymorth wrth ddrafftio manylebau ar gyfer datrysiadau ynni adnewyddadwy fel paneli solar a phympiau gwres.
  • Hyb Datgarboneiddio: Bydd hyb ffisegol a rhithwir yn cael ei sefydlu fel pwynt canolog ar gyfer cydweithio, dysgu a chymorth, gan gadarnhau ymhellach ymrwymiad y gymuned i gynaliadwyedd.
  • Rhaglenni Hyfforddi Pwrpasol: Bydd ein rhaglenni hyfforddi sydd wedi’u hardystio gan DPP yn cael eu teilwra i anghenion penodol pob busnes, gan sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn gallu cael eu defnyddio’n ymarferol. Bydd y rhaglenni hyn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, o ymwybyddiaeth sylfaenol am garbon i strategaethau cynaliadwyedd uwch.
  • Mynediad at Gyllid Ychwanegol: Gan gydnabod yr heriau ariannol sy’n codi wrth fabwysiadu technolegau cynaliadwy, byddwn yn rhannu cyfleoedd ariannu ychwanegol â busnesau ar gyfer gosod paneli solar, batris, a datrysiadau adnewyddadwy eraill.

Partneriaeth â’r fenter Cadwyn Clwyd

Mewn partneriaeth â’r fenter Cadwyn Clwyd a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rydym yn darparu cymorth cynhwysfawr i fusnesau, gan sicrhau nad yw mabwysiadu arferion cynaliadwy yn faich, ond yn hytrach gyfle ar gyfer twf ac arloesi.

Ffurflen gofrestru....

 

Os yw’ch busnes wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy ac rydych â diddordeb ac eisiau gwybod mwy, llenwch yr wybodaeth isod, a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi….